[scroll down for English text]
Cyn belled ag y gallaf gofio, rwyf wedi dymuno i'n gwlad fod yn rhydd i gymryd ei lle haeddiannol yn y byd. Mae’r gred hon yn sail i bopeth yr wyf yn sefyll drosto’n wleidyddol. Rwyf wedi bod ac yn parhau i fod yn aelod o Yes Cymru. Rwyf wedi bod ar orymdeithiau ar hyd a lled Cymru, o Gaerdydd i Gaernarfon - heb anghofio Merthyr, lle’r uchafbwynt oedd yr araith hynod deimladwy a llawn emosiwn gan Eddie Butler.
As long as I can remember, I have wanted our country to be free to take its rightful place in the world. This belief underpins all that I stand for politically. I have been and remain a member of Yes Cymru. I have been on marches the length and breadth of Wales, from Cardiff to Caernarfon - not to forget Merthyr, where the highlight was the highly moving and emotionally charged speech by Eddie Butler.