[scroll down for English text]
Rhwng 2017 a 2022, bum yn gynghorydd dros dref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf. Rwyf yn parhau i fod yn gynghorydd tref dros y ward ar Gynfor Tref Pontypridd.
Rwyf yn deall pa mor bwysig yw gwasanaethau'r cyngor i gynifer o bobl yn ein cymunedau, a hefyd pwysigrwydd cael cynghorwyr yn cynrychioli'r Blaid os ydym am weld twf mewn cefnogaeth i'r Blaid ledled y cymoedd. Dyna pam fy mod fel Aelod o'r Senedd yn gweithio'n agos gyda'n cynghorwyr a'n darpar gynghorwyr ar nifer o ymgyrchoedd lleol. Yn Rhondda Cynon Taf, mae hyn wedi cynnwys ymgyrchu yn erbyn newidiadau i drafnidiaeth ysgol, yn erbyn cau cartrefi gofal a hefyd yn erbyn cynlluniau dadleuol megis ymestyn oes chwarel Craig yr Hesg.
Gyda etholiadau nesaf i Gyngor Merthyr Tudful a Chyngor Rhondda Cynon Taf yn digwydd yn 2027, mae'n allweddol ein bod yn defnyddio etholiad 2026 i adeiladau momentwm at hynny. Gwyddom pa mor bwysig yw cael cynghorwyr Plaid Cymru ar y ddau Gyngor, a pha mor drawsnewidiol all pethau fod pan mae'r Blaid yn rheoli'r cynghorau hyn. Mae gennym aelodau gwych yn y Blaid fydda'i yn gynghorwyr rhagorol, a byddwn yn cydweithio gyda aelodau ledled yr etholaeth er mwyn ethol gymaint o gynghorwyr a phosib ar y ddau Gyngor.
Between 2017 and 2022, I served as a councillor for the Pontypridd Town ward on Rhondda Cynon Taf Council. I continue to be a town councillor for the ward on Pontypridd Town Council.
I understand how important council services are to so many people in our communities, as well as the importance of having councillors representing the Party if we want to see growth in support for the Party across the valleys. That’s why, as a Member of the Senedd, I work closely with our councillors and prospective councillors on a number of local campaigns. In Rhondda Cynon Taf, this has included campaigning against changes to school transport, against the closure of care homes, and also against controversial plans such as extending the lifespan of the Craig yr Hesg quarry.
With the next elections for Merthyr Tydfil Council and Rhondda Cynon Taf Council taking place in 2027, it is crucial that we use the 2026 election to build momentum. We know how important it is to have Plaid Cymru councillors on both Councils, and how transformative things can be when the Party controls these councils. We have excellent members in the Party who will make outstanding councillors, and I will work with members across the constituency to elect as many councillors as possible on both Councils.