[scroll down for English text]
Os ydym am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd cynyddu'r cyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg mewn ardaloedd fel Pontypridd, Cynon a Merthyr yn allweddol bwysig.
Golyga hyn bod rhaid buddsoddi mwy mewn addysg Gymraeg, a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Mae canolfanau cymunedol, megis Clwb y Bont a Theatr Soar, gyda rol allweddol bwysig o ran hyn hefyd, ynghyd a'n mentrau iaith.
Fel Aelod o'r Senedd, rwyf wedi herio Cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru ynglyn a nifer o benderfyniadau sydd - yn fy marn i - wedi niwedio twf y Gymraeg yn yr etholaeth, megis drwy gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton a gwrthod agor ysgol newydd yn ngogledd Pontypridd. Bum hefyd yn eirioli am docynnau am ddim i drigolion lleol i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, a phwyso'r cyngor ar eu cynlluniau i sicrhau gwaddol.
Rwyf yn aelod o Gymdeithas yr Iaith.
If we want to reach the target of one million Welsh speakers by 2050, increasing the opportunities to learn and use the Welsh language in areas such as Pontypridd, Cynon and Merthyr will be key.
This means that we must invest more in Welsh education, and ensure that everyone has the opportunity to become confident Welsh speakers. Community centres, such as Clwb y Bont and Theatr Soar, have a key role to play in this as well, along with our mentrau iaith.
As a Member of the Senedd, I have challenged Rhondda Cynon Taf Council and the Welsh Government regarding a number of decisions which - in my opinion - have harmed the growth of the Welsh language in the constituency, such as by closing Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton and refusing to open a new school in north Pontypridd. I also advocated for free tickets for local residents to the National Eisteddfod in Pontypridd, and pressed the council on their plans to secure a legacy.
I am a member of Cymdeithas yr Iaith.