[scroll down for English text]
Mae sicrhau bod Cymru yn siarad ar faterion rhyngwladol, ac yn cydweithredu â chenhedloedd eraill, yn bwysig i mi. Wedi’r cyfan, mae gan Gymru draddodiad hir o ymgyrchu dros heddwch ac yn ystod fy nghyfnod yn y Senedd, rwyf wedi defnyddio fy llais i ategu y galwadau hynny gan gynnwys galw am gadoediad parhaol yn Gaza.
Rwy’n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol yn y Senedd, ac rwyf hefyd yn cynrychioli’r Senedd ar Gynulliad Senedd Prydain ac Iwerddon. Rwyf hefyd yn aelod o CND.
Ar ôl mynychu Prifysgol yn Iwerddon, a gweithio yno am nifer o flynyddoedd fel actifydd undeb myfyrwyr, rwyf wedi cynnal perthynas agos â phobl o bob rhan o'r gagendor gwleidyddol. Fe wnaeth fy amser yno hefyd helpu i lunio fy ngwleidyddiaeth, ac atgyfnerthu fy nyhead i weld Cymru yn dod yn wlad annibynnol.
Ensuring Wales speaks out on international issues, and cooperates with other nations, is important to me. After all, Wales has a long tradition of campaigning for peace and during my time at the Senedd, I have used my voice to reiterate those calls including calling for a permanent and immediate ceasefire in Gaza.
I am Chair of the Wales International Cross Party Group in the Senedd, and also represent the Senedd on the British Irish Parliamentary Assembly. I am also a member of CND.
Having attended University in Ireland, and working there for a number of years as a student union activist, I have maintained a close relationship with people from across the political divide. My time there also helped shape my politics, and reinforced my desire to see Wales become an independent nation.